Rhagair
Stephen Battersby,
Llywydd, Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd
Mae alcohol wedi cael ei alw’n gyffur cymdeithasol. Mae’n gynnyrch cyfreithlon, cyfarwydd y mae'n hawdd cael gafael arno ac mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei ddefnyddio mewn modd cyfrifol. Fodd bynnag, mae’r niwed a achosir o’i gamddefnyddio hefyd yn amlwg - gan achosi niwed i iechyd corfforol a meddyliol y sawl sy’n defnyddio gormod ohono ac yn tanseilio teuluoedd, cymunedau, yr economi a lles.
Nid yw’n hawdd mynd i’r afael â’r problemau a achosir yn sgil camddefnyddio alcohol, ac mae'n sicr yn broblem rhy fawr a rhy gymhleth i unrhyw un grŵp, ac mae’n rhaid i ymatebion gydweddu i’r amryfal ffyrdd y mae alcohol a’r camddefnydd ohono yn effeithio arnom. Gall Ymarferwyr Iechyd yr Amgylchedd a’u cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol chwarae rôl werthfawr yn yr agenda hon, gan weithio gyda’r proffesiwn meddygol, yr heddlu ac eraill yn y diwydiant alcohol i hyrwyddo a darparu’r ymatebion priodol er mwyn i ni allu atal problemau a mynd i’r afael â hwy pan fyddant yn codi.
Yn y pecyn hwn ceir 10 o ymyriadau, pob un ohonynt yn rhoi sylw i un mater sy’n ymwneud ag alcohol. Awdurdodau lleol sy’n eu cyflwyno drwy weithio gydag amrywiol fudiadau partner, ac maent naill ai’n rhoi sylw i broblemau cyn iddynt godi trwy addysg neu fynd i’r afael â materion sydd wedi codi drwy ddarparu atebion cost effeithiol y gellir eu rhoi ar waith. Mae pob un ohonynt wedi cael eu treialu ac mae pob un yn gweithio. Mae’r Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd yn ddiolchgar dros ben i’r awdurdodau lleol hynny a mudiadau eraill sydd wedi creu’r cynlluniau am ganiatáu i ni eu casglu a’u rhannu yn y pecyn hwn.
Croesawaf y pecyn hwn yn frwd ac rwy’n argymell eich bod yn ei ddarllen. Defnyddiwch y pecyn ond yn fwy na hynny rhannwch y pecyn gyda chydweithwyr yn eich mudiad a thu hwnt. Gobeithio y bydd y pecyn o fudd i chi yn eich gwaith o fynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol yn y dyfodol.
Cynnwys
Marcio Poteli – atal cyflenwi alcohol i rai dan oed
Pecyn i atal cyflenwi alcohol i rai dan oed drwy hwyluso olrhain poteli a chaniau i siopau
Gwell Bar Gwag
Ceisio atal gor-yfed a throseddau a thrais sy’n gysylltiedig, trwy Gynllun Gwobrwyo Trwyddedau
Cryfhau Diodydd
Yn atal cryfhau diodydd mewn tafarnau a chlybiau
Gwrth-sbeicio
Codi ymwybyddiaeth o’r risg o sbeicio diod
Cerdyn Gwybodaeth am Alcohol
Yn hybu defnydd diogel o alcohol ac yn rhoi gwybodaeth atodol am iechyd a diogelwch
Gwlad Gymedrol
Ymgyrch Hysbysebu Ymwybyddiaeth o Alcohol
Ymwybyddiaeth o Alcohol mewn ysgolion drwy ABCh
Codi ymwybyddiaeth o risgiau camddefnyddio alcohol drwy gwricwlwm ABCh ysgolion
Storïau Digidol
Codi ymwybyddiaeth o risgiau camddefnyddio alcohol ac yn hybu newid ymddygiad pobl ifanc
Hyfforddi Stiwardiaid
Pecyn hyfforddi stiwardiaid drws ar gyfer cyflogaeth
Stryd Glir
Atal yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus gan ddefnyddio Deddf Cyfiawnder Cymunedol a’r Heddlu 2001
